Mae’r Gymdeithas Frenhinol Dros Warchod Adar (RSPB) eisiau newid yn y diwydiant saethu grugieir (grouse), ac yn galw am orfodi’r rhai sydd am eu saethu i gael trwydded.

Yng Nghymru mae saethu grugieir yn boblogaidd ym Mynyddoedd y Berwyn – ardal o ucheldir grugiog sy’n ymestyn o Langollen yn y gogledd ddwyrain i Ddinas Mawddwy yn y canolbarth.

Mae’r RSPB wedi rhybuddio fod angen i’r diwydiant newid ei ffordd, gyda honiad fod rhai rhywogaethau prin yn cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Mae’r aderyn ysglyfaethus Bod Tinwen (hen harrier) – sy’n bwyta grugieir – dan fygythiad ar ucheldiroedd Cymru, ac mae’r RSPB yn galw am newid ymddygiad er mwyn achub yr aderyn prin rhag wynebu difodiant.

Hefyd mae’r elusen sy’n gwarchod bywyd gwyllt yn pryderu fod rheolwyr ffermydd grugieir yn creu difrod amgylcheddol, trwy sychu a llosgi cynefinoedd gan ladd y sgwarnog mynydd er mwyn lleihau afiechyd yn y grugieir.

Barn yr RSPB yw bod angen trefn newydd i drwyddedu’r diwydiant saethu grugieir, a fyddai’n cynyddu safonau a sicrhau fod gweundiroedd yn cydymffurfio gyda’r gyfraith.

Enillion sylweddol

Mae’r Gymdeithas Weundiroedd yn cefnogi cynllun ar gyfer diogelu’r Bod Tinwen ond yn dadlau yn erbyn yr angen i drwyddedu saethu grugieir.

Dywedodd Robert Benson o’r Gymdeithas: “Gall trwyddedu tymor byr o saethu grugieir, sydd wedi ei gefnogi gan yr RSPB effeithio ar reolaeth gweundiroedd o genhedlaeth i genhedlaeth, gan arwain at reolaeth gadwriaethol sydd ddim mor llwyddiannus.”

Ond dywedodd Jeff Knott, ar ran yr RSPB: “Fe ddylai fod yn ddyletswydd i’r ystadau grugieir gofleidio trwyddedu fel modd o gynyddu safonau, gan ennyn ymddiriedaeth gyhoeddus, gan gael gwared ar yr afalau drwg.”