Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi derbyn £12m gan Everton am gapten Cymru, Ashley Williams.

Mae adroddiadau wedi bod ar led am y cynnig hwn ers beth amser wedi i reolwr Everton, Ronald Koeman, ddweud fod y chwaraewr wedi tynnu ei sylw.

Ond yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Clwb Pêl-droed Abertawe wrthod cynnig o £10 miliwn gan Everton am yr amddiffynnwr.

Fel capten tîm pêl-droed Cymru, fe lywiodd Ashley Williams ei dîm i rownd gynderfynol pencampwriaeth Ewro 2016 eleni.

Mae ar ganol cytundeb pedair blynedd gyda’r Elyrch ar hyn o bryd.