Mae plismyn sy’n ymchwilio i achos o ymosodiad difrifol yn Y Barri yr wythnos ddiwetha’, wedi cyhuddo dyn 68 oed o geisio llofruddio. 

Fe gafodd Raymond O’Connell o Benarth ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Glanmor Crescent, Y Barri, tua 9.15yh ddydd Iau, Awst 4.

Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn, Awst 6, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa er mwyn ymddangos eto gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fedi 2.

Mae’r wraig 54 oed a gafodd ei hanafu yn y digwyddiad, yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac mae hi mewn cyflwr difrifol iawn.