Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams
Mae cyllid ar gyfer adeiladu ysgol Saesneg newydd, gwerth £8 miliwn, wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Fe roddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, sêl bendith i roi hyd at £3.3 miliwn o arian cyfatebol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i adeiladu ysgol ‘yr 21ain ganrif’ yn Llansawel.

Bydd lle i 420 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd Saesneg a fydd yn cael ei hadeiladu yn lle ysgolion cynradd Brynhyfryd, Llansawel ac Ynysymaerdy.

Bydd lle i 75 o ddisgyblion meithrin rhan-amser ar y safle hefyd.

Moderneiddio ysgolion

Mae’r arian yn rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif y Llywodraeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol, i adeiladu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.”

Y nod yw rhoi adnoddau i’r ‘ysgolion cywir yn y mannau cywir’ i wneud ysgolion yn fwy modern, o’r cyfnod sylfaen, hyd at addysg ôl-16.

“Bydd cyfleuster newydd, cyfoes, o’r radd flaenaf yn Llansawel yn nodi cychwyn pennod newydd ar gyfer plant a theuluoedd y gymuned, a’u dyfodol,” meddai Kirsty Williams.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod rhagor o waith i’w wneud ledled Cymru i sicrhau bod plant ac athrawon yn ffynnu gan weithio mewn adeiladau cyfoes, newydd.”

Bydd gwaith adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau ym mis Chwefror 2017, gyda’r disgwyl y bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Mehefin 2018.