Mae’r RSPCA wedi galw am ymchwiliad i’r Ddeddf Cŵn Peryglus, gan ei galw’n “aneffeithiol a diffygiol”.

Yn ôl yr elusen, dyw rhan o’r ddeddf, a gafodd ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl, sy’n gwahaniaethu ar sail brîd y cŵn, ddim yn diogelu’r cyhoedd rhag cael eu cnoi gan gi.

Mae adroddiad y mudiad, Breed Specific Legislation: A Dog’s Dinner, yn dangos hefyd bod mwy o adroddiadau am bobol yn cael eu cnoi gan gŵn nag erioed o’r blaen.

Mae hefyd yn cael effaith negyddol ar les cŵn hefyd, meddai’r elusen, gyda’r RSPCA yn cael eu “gorfodi” i roi 366 o gŵn i gysgu yng Nghymru a Lloegr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’r heddlu, y RSPCA a sefydliadau achub anifeiliaid eraill yn gorfod delio â goblygiadau’r gyfraith ddiffygiol hon drwy roi cŵn i gysgu gan fod deddfwriaeth yn ein gorfodi am y ffordd mae’r ci yn edrych,” meddai’r arbenigwr ar les cŵn y RSPCA, Dr Samantha Gaines.

Mae hyn yn digwydd, meddai, hyd yn oed os yw’r ci yn ddigon diogel i’w gael ei ail-gartrefu.

“Dydy hyn ddim yn unig yn broblem foeseg a lles, mae hefyd yn rhoi straen emosiynol sylweddol ar staff.”

Galw am ffordd newydd

Galwodd am ffordd newydd o ddelio â chŵn peryglus ac i beidio â deddfu ar fridiau penodol, gan ychwanegu bod angen i Lywodraeth Prydain lansio ymchwiliad i effaith y ddeddf fel mae ar hyn o bryd.

Mae’r elusen wedi galw am ymgyrch addysgiadol hefyd, yn enwedig i blant, i ddysgu pobol am effeithiau cŵn peryglus.

Profiad Cymro

Cafodd Brian Roberts, o Flaenau Ffestiniog, ei gŵn wedi’u cymryd ganddo, a hynny dim ond “am y ffordd oeddan nhw’n edrych”, meddai.

Bu ffrind yn edrych ar ôl y ci iau, Oggi, ar ôl i’r ci hŷn, Zack, ddod dros strôc. Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i Oggi fod mewn ffrwgwd â chi arall, a chafodd ei gadw mewn cwt ci am wyth mis heb unrhyw gyswllt â’i berchennog.

Roedd hyn am fod Oggi yn cael ei gydnabod fel ci peryglus dan y ddeddf, meddai Brian, a gafodd ei gi yn ôl ar ôl mynd i’r llys.

Dau fis ar ôl i Oggi gael ei gymryd oddi arno, cafodd ei dad, Zack, sydd bellach wedi marw, ei gymryd gan yr heddlu hefyd.

“Daeth swyddogion â gwarant. Roedden nhw wedi dod y diwrnod blaenorol a ro’n i’n gobeithio na fyddan nhw’n ei gymryd am ei fod yn sâl,” meddai Brian Roberts.

“Roedd Zack yn 16 oed, wedi cael cwpl o strôcs, yn wan iawn ar ei goesau ôl ac ar feddyginiaeth bob dydd. Roedd e hefyd yn fyddar ac yn rhannol ddall.”