Fe fydd aelodau UKIP yng Nghymru yn wynebu pleidlais yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â dyfodol arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

Daw hyn wedi i’r gŵr gael ei ddiarddel dros dro gan Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) UKIP fu’n cyfarfod ddoe i drafod ei dynged.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Nathan Gill i ildio un o’i swyddi, naill ai fel Aelod Seneddol Ewropeaidd neu Aelod Cynulliad yng Nghymru.

Ond, ni wnaeth Nathan Gill ymateb i lythyr oedd yn galw arno i ildio un o’i swyddi erbyn Awst 7, felly mae wedi’i ddiarddel.

Er hyn, penderfynodd pwyllgor yr NEC mai aelodau UKIP yng Nghymru ddylai benderfynu ar dynged Nathan Gill, ac fe fyddan nhw’n wynebu pleidlais yn gofyn a ddylai Nathan Gill gael ei ddiarddel neu barhau â dwy swydd?

Y cefndir

Mae Nathan Gill wedi cynrychioli’r Senedd yn Ewrop ers 2014, ac ym mis Mai eleni fe ddaeth yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.

Mae’n mynnu nad oes manteision personol o gynnal dwy swydd, a galwodd rhybudd y Pwyllgor tros ei ddiarddel fel rhywbeth “annemocrataidd a di-sail”.

Mae’n dadlau y byddai isetholiad yn anorfod pe bai’n rhoi’r gorau i’w rôl fel ASE a byddai hynny’n “gost sylweddol i’r trethdalwr.”

Er hyn, mae pump o’i gyd Aelodau Cynulliad UKIP yng Nghymru wedi galw arno i ymwrthod ag un o’i swyddi.