Fe glywodd tasglu ar ddyfodol gwaith dur Port Talbot dydd Iau fod perfformiad busnes Tata Steel yng Nghymru yn dal i wella.
Dyna ddywedodd cwmni Tata Steel i’r chweched cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Tata Steel ei hun ac undeb Unite, wrth drafod dyfodol y cwmni ym Mhort Talbot.
Cafodd y tasglu ei sefydlu’n arbennig yn wyneb yr argyfwng dur, yn sgil cyhoeddiad Tata i werthu ei safleoedd yng Nghymru.
Ond mae’r broses o werthu yn wynebu oedi, er bod sawl cwmni wedi dangos diddordeb.
Dywedodd Ken Skates, ysgrifennydd yr economi a seilwaith Llywodraeth Cymru, oedd yn cadeirio’r cyfarfod, bod “ffactorau allanol a mewnol” yn gyfrifol am y gwelliant ym musnes Tata yng Nghymru.
Ychwanegodd fod “ymrwymiad ac ymdrechion y gweithlu” i ddiolch am y newyddion cadarnhaol hefyd.
Dan y tasglu, mae cymorth gwaith ac iechyd yn cael ei roi i weithwyr sydd wedi’u heffeithio, gyda Gyrfa Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn arwain ar y gwaith.
Fe ddywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth y Tasglu, fod Llywodraeth Prydain yn “parhau i gysylltu â phob buddsoddwr posibl i ddatblygu cymorth posibl i’r gwaith.”
Gweithwyr yn dal i wynebu ‘ansicrwydd’
Fe bwysleisiodd Ken Skates ei fod yn dal i fod yn “gyfnod ansicr iawn i nifer o weithwyr dur, eu teuluoedd a chymunedau lleol ledled Cymru”, gan alw am weithredu gan Lywodraeth Prydain ar “bensiynau ac ynni.”
Mae’n hollbwysig nad yw’r datblygiadau sydd wedi eu gweld yn y misoedd diwethaf yn cael eu tarfu gan newid staff yn San Steffan,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar bensiynau ac ynni, sy’n hanfodol i helpu i sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru mewn sefyllfa gynaliadwy yn yr hirdymor.”
Ymgynghori ar bensiynau
Fe ddaeth cyfnod ymgynghori ar bensiynau gweithwyr Tata i ben ddiwedd mis Mehefin, ac mae Llywodraeth y DU yn dadansoddi ei ganlyniadau ar hyn o bryd.
Cafodd ei sefydlu i ymgynghori ynglŷn â newidiadau i gynllun pensiwn gweithwyr dur Tata mewn ymgais i achub y diwydiant yn y DU.
Byddai’r newidiadau yn cynnwys torri rhwymedigaethau tymor hir y Gronfa Bensiwn Ddur Brydeinig drwy ei gosod ar fynegai pris y prynwr yn hytrach na’r mynegai pris adwerthu, sy’n costio mwy.
Gallai’r newid arbed £2.5 biliwn ond byddai’n lleihau budd-daliadau i’r sawl sy’n derbyn pensiwn.