Roedd cyngerdd roc mawr y Pafiliwn
Y Candelas yn y Pafiliwn (llun G360)
astig” yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r ŵyl yn agored ar gyfer syniadau tebyg yn y dyfodol.

Roedd o leia’ 1,600 o bobol o bob oed wedi gwylio tri o fandiau gorau Cymru – Swnami, yr Ods a’r Candelas – gyda Cherddorfa Bop Cymru … y tro cynta’ i gyngerdd o’r fath gael ei gynnal yn rhan o adloniant swyddogol yr Eisteddfod.

“Y broblem bellach fydd dilyn hynna,” meddai’r Cyfarwyddwr, Elfed Roberts. “Dydan ni ddim eisio trefnu rhywbeth tebyg dim ond er mwyn gwneud hynny ond rydan ni’n agored i gynigion ar gyfer digwyddiadau tebyg.

“Roedd yr ymateb yn anhygoel ac roedd hi’n wych gallu cynnal noson o safon efo tri o’r prif fandiau a cherddorfa o gerddorion ifanc.”

Y pafiliwn newydd

Yn ôl Elfed Roberts, roedd llwyddiant y digwyddiad hefyd yn cyfiawnhau cael pafiliwn newydd.

“Fyddai’r un peth ddim wedi bod yn bosib i’r un safon yn yr hen Bafiliwn Pinc.”