Chwarel Penrhyn (Llun: Welsh Slate Ltd)
Fe fydd grwpiau cymunedol yn cael eu sefydlu yn yr ardaloedd sy’n rhan o’r ymgais i gael Safle Treftadaeth Byd i’r diwydiant llechi yng Nghymru.

Fe fydd y timau treftadaeth yn helpu i godi diddordeb a chefnogaeth leol i’r cynllun a allai osod rhai o ardaloedd chwareli’r Gogledd ochr yn ochr â thirwedd ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward I.

Heddiw ar faes yr Eisteddfod, roedd safle Facebook newydd hefyd yn cael ei lansio i gefnogi’r enwebiad.

Gwaith rheoli

Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i bennu union derfynau’r gwahanol ardaloedd ac i sicrhau bod safleoedd posib yn cael eu rheoli, yn ôl cydlynydd yr ymgyrch, Bethan Jones Parry.

Y disgwyl yw y bydd rhannau o ddyffrynnoedd Ogwen, Peris a Nantlle’n rhan o’r enwebiad, yn ogystal â Blaenau Ffestiniog, Abergynolwyn a thrên bach Tal-y-llyn, y trên llechi cynta’ o’i fath.

Roedd lansio’r safle Facebook yn un o nifer o weithgareddau yn yr Eisteddfod heddiw i gefnogi’r cais, sy’n debyg o gymryd dwy neu dair blynedd i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Prydain a’i anfon ymlaen at UNESCO, y corff rhyngwladol sy’n gyfrifol am Safleoedd Treftadaeth Byd.