Wayne Rooney
Mae plasty moethus Wayne Rooney wedi ei dargedu gan ladron – ond fe fethon nhw ddwyn unrhyw beth wedi i’r larwm ganu.

Roedden nhw wedi mentro i’r cartref moethus yn Swydd Caer am tua naw o’r gloch nos Fercher, pan oedd Wayne Rooney a’i deulu yn Old Trafford ar gyfer ei gêm dysteb i ddathlu’r ffaith ei fod wedi chwarae i Man U am 12 mlynedd.

Bu i’r heddlu gynnal archwiliad llawn o’r plasty gwerth £6 miliwn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth wedi ei ganfod hyd yma.