Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, ac Owen Smith, yr unig ymgeisydd am yr arweinyddiaeth Llun: PA
Fe fydd Jeremy Corbyn yn amlinellu ei gynlluniau i “drawsnewid” Prydain cyn mynd benben ag Owen Smith mewn dadl fyw yng Nghaerdydd heno.
AS Pontypridd yw’r unig ymgeisydd i herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Mae disgwyl i Jeremy Corbyn amlinellu 10 addewid yn esbonio sut y bydd yn “ailadeiladu’r” DU gyda rhaglen buddsoddiad gwerth £500 biliwn, wrth iddo ymgyrchu yn nwyrain Llundain heddiw.
Yn ddiweddarach fe fydd yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y ddadl swyddogol gyntaf gydag Owen Smith, sydd wedi rhybuddio ei fod yn “bryderus iawn” y bydd y Blaid Lafur yn hollti.
Ddoe, roedd Owen Smith wedi amlinellu ei gynlluniau ar gyfer rhaglen radical o ddiwygiadau a fyddai’n rhoi’r “hwb mwyaf i safonau byw ers cenhedlaeth.”
Mae’n cynnwys diwygio pensiynau, newidiadau i fudd-daliadau ac isafswm cyflog uwch.
Fe fydd y ddadl yn cael ei darlledu yn fyw ar-lein am 7yh nos Iau ac mae disgwyl i ganlyniad y bleidlais am yr arweinyddiaeth gael ei gyhoeddi ar 24 Medi.