Amina Al-Jeffery, Llun: PA
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dweud bod ganddo’r pŵer i helpu dynes 21 oed sy’n honni ei bod wedi ei charcharu gan ei thad yn ei gartref yn Sawdi Arabia.

Ond dywedodd Mr Ustus Holman bod yn rhaid iddo benderfynu a ddylai’r llys weithredu’r pŵer hwnnw.

Mae Amina Al-Jeffery, sydd â dinasyddiaeth ym Mhrydain a Sawdi Arabia, ac wedi’i magu yn Abertawe, yn honni bod ei thad, yr academydd Mohammed Al-Jeffery yn ei chloi yn ei hystafell am ei bod wedi “cusanu dyn.”

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli Amina Al-Jeffery wedi cymryd camau cyfreithiol ac wedi gofyn i Mr Ustus Holman i ystyried ffyrdd y gall ei helpu.

Mae’r barnwr, fu’n ystyried y dadleuon yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Gorffennaf wedi dechrau cyflwyno ei ddyfarniad.

Clywodd Mr Ustus Holman bod  Amina Al-Jeffery wedi gadael Abertawe ac wedi symud i Sawdi Arabia gyda’i theulu bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y barnwr bod yr achos yn un “anarferol iawn”.

Daeth i’r casgliad bod rhyddid Amina Al-Jeffery wedi ei gyfyngu.

Mae’r achos yn parhau.