Bu pobol yn clocsio ar faes Y Fenni heddiw i hyrwyddo ynni glân a dangos i bobol faint o ynni y mae’n cymryd i bweru bwlb neu ffôn.

Tudur Phillips, cyflwynydd plant ar S4C a wyneb adnabyddus ym myd clocsio oedd yn arwain y dawnsio, gan ddechrau clocsio ar sgwariau bychan ger fynedfa yr Eisteddfod.

Ynni Clyfar GB oedd y tu ôl i’r cwbl, sydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf eleni i geisi cael pobol Cymru i ddeall mwy am eu hynni, a hyrwyddo mesuryddion ynni – fydd yng nghartrefi pawb erbyn 2020.

Bydd cyflenwyr ynni yn cynnig y “mesuryddion clyfar” hyn am ddim i bobol, a fydd yn dangos mewn punnoedd a cheiniogau faint o ynni y mae pobol yn ei ddefnyddio.

“Rydych chi’n gallu meddwl wedyn am sut rydych chi’n defnyddio’ch ynni yn eich tŷ, a thrio mynnu bach fwy o reolaeth dros eich ynni,” meddai Fflur Lawton o Ynni Clyfar GB.

Ynni ymwelwyr y maes

Mae’r cwmni wedi bod yn cyfrifo faint o ynni y mae ymwelwyr y maes wedi’i greu ers dydd Sadwrn yr Eisteddfod wrth gerdded ar y sgwariau nôl ac ymlaen i’r Maes.

Hyd yn hyn, yn ôl y cyfrifydd ynni, mae pobol wedi creu digon o ynni i bweru bwlb am saith munud a 36 eiliad.

“Mae hynny’n cymryd lot o ynni a dyna be rydan ni’n trio ei egluro, bod angen i bobol ddeall sut maen nhw’n defnyddio ynni. Mae angen ffordd weladwy, hawdd iddyn nhw wneud hynny,” ychwanegodd Fflur Lawton.

“Rydyn ni’n trio cael pobol i ddeall faint o ynni mae’n costio, neu faint o ynni mae’n ei gymryd i oleuo bwlb neu i tsiarjio’r ffôn neu laptop.