Dyfrig ab Ifor, Catrin, a'r trilliaid yn eu pram
Roedd Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd wedi rhoi o’r neilltu ei wisg hufen a’i ffon heddiw, wrth iddo fynd am dro gyda’r trilliaid sy’n wyrion iddo.

Dyfrig ab Ifor ydi taid y tri, sy’n byw yng Nghaerdydd.

Ac roedd Taid – sydd fel arfer yn arwain pob gorymdaith yr Orsedd ac yn cyrchu pob bardd a llenor i’r llwyfan yn ystod seremonïau – yn ddyn balch iawn, iawn.