Mae’r hyfforddwraig gerdd dant, Mair Carrington Roberts, wedi’i hanrhydeddu â Medal Syr T H Parry-Williams ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc.

Er yn byw ym Môn erbyn hyn, gwnaeth ei chyfraniad mwya’ yn y gogledd ddwyrain, lle y bu’n byw a gweithio am flynyddoedd, a lle y bu’n hyfforddi, dysgu a pharatoi cannoedd o blant a phobol ifanc ar gyfer pob math o gystadlaethau a pherfformiadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn gynnar yn y 1970au, aeth Mair ati i greu parti canu yn ardal Wrecsam, Parti’r Ffin.  Dyma barti a gyfrannodd yn helaeth at ddiwylliant yn ardal Wrecsam am bron i ugain mlynedd, gan dyfu mewn maint nes bod 30 o aelodau yn y pen draw.  Bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu côr yng Nghapel y Groes, Wrecsam gan gynnwys nifer o blant a phobl ifanc yr ardal.

Bu Syr T.H.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.