Yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson
Mae disgwyl cyhoeddi dyfarniad yfory yn achos dynes 21 oed sy’n honni ei bod wedi’i charcharu gan ei thad yn Sawdi Arabia.

Fe fydd barnwr yr Uchel Lys yn Llundain yn cyhoeddi’r dyfarniad ddydd Mercher yn dilyn cais i gynorthwyo Amina Al-Jeffery sydd â dinasyddiaeth ym Mhrydain a Sawdi Arabia, ac wedi’i magu yn Abertawe.

Mae’r ferch yn honni bod ei thad, Mohammed Al-Jeffery, wedi’i chaethiwo am iddi “gusanu dyn.”

Ond gwadu’r honiadau wnaeth ei thad yn yr Uchel Lys yr wythnos diwethaf.

Llythyr AS Abertawe

 

Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn galw am weithredu brys i’w rhyddhau.

Mae’n dweud y dylai’r Llywodraeth gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau ei bod yn dychwelyd yn ddiogel.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi rhyddhau datganiad yn nodi eu bod yn “darparu cymorth i ddynes yn Sawdi Arabia.”