Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw fod grŵp gorchwyl a gorffen newydd am gael ei sefydlu i adolygu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd disgwyl i’r grŵp adolygu gweithgareddau’r sefydliad yn ystod yr haf eleni, cyn cyflwyno argymhellion i’w gweithredu ar gyfer 2017.

Mae hefyd disgwyl iddyn nhw ystyried y berthynas rhwng y Coleg â’r sector addysg bellach o ran darpariaeth ôl-16.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, dyma’r adeg iawn i ystyried rôl a datblygiad y Coleg, bum mlynedd ers ei sefydlu.

 

Meysydd o ystyriaeth

Mae disgwyl i’r grŵp ystyried a ddylai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gael ei ymestyn i gynnwys y sector ôl-16 a pha opsiynau sy’n bosib ar gyfer hynny.

Fe fyddant hefyd yn ystyried model presennol y Coleg o ran datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan ystyried ei werth am arian a’i gynaliadwyedd.

Mae’r meysydd eraill o ystyriaeth yn cynnwys opsiynau cyllido’r Coleg ar gyfer y dyfodol, ei berthynas â sefydliadau addysg uwch eraill, ynghyd â rôl y Coleg o ran ymateb i argymhellion Adolygiad Diamond a datblygiadau diweddar eraill ym maes polisi.

Argymhellion ‘ar y ffordd ymlaen’

“Bum mlynedd ar ôl sefydlu’r Coleg, nawr yw’r amser i ystyried rôl y sefydliad at y dyfodol,” meddai Kirsty Williams.

“Dyna pam rwy’n cyhoeddi y caiff y grŵp gorchwyl a gorffen hwn ei sefydlu i adolygu gweithgareddau’r Coleg a gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.”

“Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau y gall ein pobl ifanc barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar adael yr ysgol a chynnal a datblygu eu sgiliau iaith er mwyn eu defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol,” meddai.

Ychwanegodd y bydd yn penodi Cadeirydd yn ystod y misoedd nesaf, ac yn gofyn am sylwadau gan randdeiliaid “sydd â phrofiad ac arbenigedd ym maes addysg uwch, addysg bellach a dysgu cyfrwng Cymraeg.”

‘Angen adnoddau digonol a buddsoddiad’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Miriam Williams, is-gadeirydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith y gallai ehangu cyfrifoldeb y Coleg Cymraeg i gynnwys addysg ôl-16 “arwain at ddatblygiadau cyffrous a phwysig iawn.”

“Yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn y sector addysg uwch gallai olygu ymestyn egwyddor addysg gyfun i addysg ôl-16 ac ôl-18.

“Wrth gwrs, er mwyn gallu gwneud hyn yn iawn byddai angen adnoddau digonol a buddsoddiad ariannol ond y ffordd i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw trwy roi swyddogaeth heriol, newydd iddo.
“Gobeithio fod y cyhoeddiad yma’n golygu fod yr Ysgrifennydd Addysg yn cytuno gyda ni fod angen naid fawr ymlaen ar y Coleg Cymraeg. Gobeithio hefyd bod bwriadu cadw at yr addewid ym maniffesto’r Rhyddfrydwyr i ehangu cylch gwaith y Coleg i gynnwys sector addysg bellach.”

‘Amserol’

Mewn datganiad dywedodd  y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Cytunwn ei bod yn amserol i sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i ystyried sut y gall y Coleg gyfrannu yn ehangach at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad addysg Gymraeg ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at waith y Grŵp.

“Yn y cyfamser byddwn yn parhau gyda’r gwaith o baratoi Cynllun Academaidd newydd a fydd yn ystyried sut i gynnal ac adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd gan y Coleg hyd yma.’’