Joshua Hoole a'i ddyweddi, Rachael McKie Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Fe fydd angladd milwr a fu farw yn ystod ymarferiad hyfforddi gyda’r fyddin ym Mannau Brycheiniog yn cael ei gynnal heddiw.
Mae disgwyl i alarwyr dalu eu teyrngedau i’r Corporal Josh Hoole, yn ei bentref genedigol, Ecclefechan, ger Lockerbie yn yr Alban.
Roedd y milwr 26 oed, a fu farw yn ystod yr ymarferiad ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn, ar 19 Gorffennaf, yn aelod o gatrawd y Reifflau ac wedi gwasanaethu yn Afghanistan.
Bydd seremoni breifat i’w deulu a’i ffrindiau agos yn cael ei chynnal yn Amlosgfa Roucan Loch ar ôl gwasanaeth yn Eglwys Goffa Crichton, Dumfries.
Roedd Josh Hoole ar hyfforddiant “anodd yn feddyliol a chorfforol” i ddod yn sarsiant, pan gwympodd yn anymwybodol.
Mae ymchwiliad yr heddlu i’w farwolaeth yn parhau.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod ymchwiliad post mortem i’w farwolaeth wedi dod i ben ond nad oes disgwyl y canlyniadau tan ddiwedd mis Medi.
Dywedodd tad Josh Hoole, a oedd yn uwch-ringyll gyda’r fyddin, ei fod yn credu na fyddai ei fab eisiau i’w gydweithwyr oedd gydag ef ar y pryd, na’r meddygon, i deimlo ar fai am ei farwolaeth.
Meddai Phillip Hoole, 54, wrth y North West Evening Mail, y gallai ei farwolaeth fod yn gysylltiedig a chlefyd ar y galon. Ychwanegodd bod ei fab yn ymwybodol o’r peryglon oedd yn gysylltiedig â’r swydd.
Dywedodd na fyddai ei fab wedi bod yn hapus gyda’r ffordd mae pobl wedi “dechrau pwyntio bys at y Fyddin” a bod rhai ASau yn cysylltu ei farwolaeth gyda digwyddiad yn 2013 pan fu farw tri milwr ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn.
“Hynod o ffit”
Roedd disgwyl iddo briodi ei ddyweddi, Rachael McKie, y flwyddyn nesaf, ac i fod yn was priodas ym mhriodas ei frawd Tyrone, yng Nghaeredin ddydd Sadwrn.
Roedd ei dad-cu, John Craig, wedi’i ddisgrifio fel “ŵyr hyfryd.”
“Roedd yn filwr ymroddedig. Roedd bob amser am fod y gorau. Roedd yn fachgen hynod o ffit, roedd yn cadw’n ffit iawn,” meddai.
Marwolaethau eraill
Bu farw tri milwr, Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby, mewn ymarferiad milwrol ym Mannau Brycheiniog ym mis Gorffennaf yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn honno hefyd.
Daeth crwner i’r casgliad bod esgeulustod yn rhannol gyfrifol am eu marwolaethau.