Teyrngedau'n cael eu gadael i'r bachgen fu farw mewn tân mewn tŷ yn Alltwen, ger Pontardawe Llun: Ben Birchall/PA Wire
Mae mam bachgen pedair blwydd oed a fu farw mewn tân mewn tŷ ym Mhontardawe yn oriau mân y bore wedi gadael teyrnged emosiynol iddo.
Fe ddechreuodd y tân mewn eiddo yn Lon Tan-yr-allt, Alltwen ger Pontardawe yn oriau mân bore dydd Mercher.
Roedd y bachgen, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Jac, mewn ystafell wely ar lawr cyntaf y tŷ, ynghyd â bachgen tair oed hefyd.
Fe aeth pedwar diffoddwr tân i mewn i’r adeilad i achub y ddau fachgen o’r tŷ, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd mam y bachgen wedi ffonio’r gwasanaethau brys am 1:40yb a phan gyrhaeddodd y frigâd dân roedd hi wedi llwyddo i adael y tŷ gyda’i merch chwech oed a’i mab 11 mis oed, wrth i gymdogion geisio achub y ddau fachgen oedd yn y tŷ.
Fe lwyddodd diffoddwyr i achub y ddau fachgen o’r tŷ ond bu farw’r plentyn pedair oed.
Cafodd y ddynes, 28 oed, sydd wedi cael ei henwi’n lleol fel Jennifer Davies, a’r tri phlentyn arall, eu cludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe, yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Nodyn emosiynol
Mae nodyn, sydd wedi cael ei arwyddo gan “mammy”, Kelsey, Riley ac Andrew wedi cael ei osod y tu allan i’r cartref.
Mae’r nodyn yn dweud: “Ti yw fy mywyd, fy myd, fy mhopeth ac ni fydda’i fyth yn anghofio dy gwrls melyn hardd. Dos i reidio dy drên i fyny’n y nefoedd ac aros amdana’ i.
“Cadw ychydig o’r goleuni hwnnw i mi, ac fe welwn ein gilydd eto un diwrnod rwy’n addo. Bydd Kelsey, Riley, Andrew, yn dy gofio di am byth. Yn ein calonnau am byth.”
Tân ‘difrifol iawn’
Fe ddywedodd Chris Margetts, uwch-reolwr gweithredu’r gwasanaeth tân, fod y tân yn un “difrifol iawn.”
“Pan gyrhaeddom, roedd y fam a’r ferch chwech oed y tu allan i’r tŷ ac roedd y ddau blentyn ifanc y tu fewn o hyd,” meddai.
“Fe aeth diffoddwyr i mewn ag offer anadlu ac achub y plant – bachgen tair oed a bachgen pedwar oed. Yn anffodus, wnaeth y bachgen pedwar oed ddim goroesi.
“Roedd y tân wedi datblygu’n llawn ac roedd yn boeth ac yn heriol. Roedd yn olygfa ddryslyd – pan gyrhaeddodd y diffoddwyr, roedd pobol eraill, cymdogion, yn ceisio mynd i mewn i’r tŷ i geisio achub y plant.
“Roedd y criwiau tân wedi canolbwyntio ar chwilio ac achub a dw i’n falch iawn o ddewrder a phroffesiynoldeb y diffoddwyr.
“Mae meddyliau’r gwasanaeth tân gyda’r teulu a chymuned Alltwen ar yr adeg ofnadwy hon. Mae’n gymuned agos iawn ac mae gennym dimau arbenigol i’w cefnogi.”
Fe aeth tair brigâd dân i’r safle, un o Bontardawe, Treforys a Chastell-nedd.
Ychwanegodd Chris Margetts bod y gwasanaeth tân a Heddlu De Cymru yn ymchwilio i’r tan gan ddweud ei fod yn credu efallai bod larymau mwg wedi eu deffro ac anogodd berchnogion tai i brofi eu larymau yn rheolaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru y byddai’r modd y gwnaeth y fam a tri o’i phlant lwyddo i ddianc o’r tŷ yn rhan o’i ymchwiliad.
Apelio am dystion
Mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tân ac yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1600282822.