Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a David Williams o grŵp addysg y mudiad, yn cael eu hebrwng allan o adeilad Cymwysterau Cymru gan yr heddlu Llun: Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod dau ymgyrchydd iaith wedi cael eu “taflu allan o adeilad Cymwysterau Cymru” ddoe ar ôl iddyn nhw feddiannu’r swyddfeydd.

Roedd y brotest yn ymwneud a phenderfyniad y corff i gadw pwnc ‘Cymraeg Ail iaith’ yn lle creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

Meddiannodd dros ddwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg swyddfeydd y corff yng Nghasnewydd.

Cafodd Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad, a David Williams o grŵp addysg y mudiad, eu hebrwng allan o’r adeilad gan yr heddlu ar ddiwedd y dydd.

Cefndir

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau radical brys, gan gynnwys cael gwared â’r cysyniad o ddysgu’r Gymraeg fel ‘ail iaith’.

Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod “o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial.

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan Cymwysterau Cymru wythnos diwethaf, dywed Philip Blaker, prif weithredwr y corff, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams eu bod am gadw’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

‘Amddifadu cenhedlaeth arall o blant’

 

Wrth siarad wedi’r protestiadau ddoe, dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r digwyddiadau yma yn brawf o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae penderfyniad swyddogion y corff yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r Gymraeg. Mae’n rhaid i bobl sefyll lan dros y bobl ifanc sydd heb lais.

“Mae gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams gyfle i gadw at ymrwymiad y Llywodraeth gan wrthdroi penderfyniad ffaeledig Cymwysterau Cymru.”

 

Cyfarfod

Bydd swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ddydd Iau i drafod y sefyllfa ac mae’r mudiad hefyd yn bwriadu cynnal rali ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ar 5 Awst.

‘Cwricwlwm newydd’

Dywedodd llefarydd Cymwysterau Cymru bod angen diwygio’r cwricwlwm yn dilyn awgrymiadau’r Athro Sioned Davies cyn newid y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

Meddai:  “Yn rhan o ymgynghoriad eang mewn perthynas â’r gwaith o ddiwygio nifer o gymwysterau TGAU a chymwysterau Safon Uwch, rydym wedi ymgysylltu â Chymdeithas yr Iaith ynglŷn â’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

“Nododd adroddiad gan yr Athro Sioned Davies yn 2013 yr angen i ddiwygio’r modd o addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion a cholegau. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried hyn yn rhan o’i gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm.

“Ond nid yw’r yn bodoli eto, ac ni fydd yn dod i fodolaeth am ychydig o flynyddoedd.

“Bu i ni benderfynu mai’r modd gorau o sicrhau lles dysgwyr fyddai diwygio’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol ar ôl i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno.

“Ar ôl i’r cwricwlwm newydd gael ei gytuno, caiff rhaglen diwygio cymwysterau ei sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys y gwaith o adolygu a diwygio cymwysterau Cymraeg.

“Rydym wedi ymgynghori’n eang fel rhan o’r rhaglen ddiwygio bresennol.

“Rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Athro Davies a’r Ysgrifennydd Cabinet Kirsty Williams, i’w hysbysu’n llawn o’n hymagwedd at ddiwygio’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol er lles dysgwyr.

“Y peth pwysicaf i ni yw lles dysgwyr. Ein gwaith ni yw sicrhau bod yr holl gymwysterau y mae disgyblion yng Nghymru’n eu dilyn yn bodloni eu hanghenion, a’u bod yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio pellach a’r byd gwaith.”