Emma Baum, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys y bore yma, wedi’i gyhuddo o lofruddio mam ifanc o Ben-y-groes yng Ngwynedd.

Fe ymddangosodd David Nicholas Davies, 25, o Glynnog Fawr drwy gyswllt fideo gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyfer gwrandawiad.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Emma Baum, 22, o Benygroes, a gafodd ei darganfod yn ei chartref yn Ffordd Llwyndu ddydd Llun, 18 Gorffennaf.

Fe wnaeth y gwrandawiad heddiw bara llai na 20 munud, ac mae dyddiad yr achos nesaf, lle fydd yn pledio’n euog neu’n ddieuog, wedi’i bennu ar gyfer 10 Hydref.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa tan hynny.

Mae disgwyl i’r achos llawn ddechrau ar 7 Tachwedd.