Safle Wylfa Newydd yn Ynys Mon Llun: Horizon
Mae angen i brosiectau ynni niwclear ddangos gwerth am arian, bod o fudd i’r ardal leol ynghyd â chreu swyddi lleol yn ol adroddiad newydd i ddyfodol y diwydiant.

Dyna gasgliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn dilyn ymchwiliad i brosiectau niwclear Wylfa B ar Ynys Môn a’r safle yn Nhrawsfynydd.

Un o brif ganfyddiadau’r adroddiad yw y dylai’r Llywodraeth wneud mwy i ddangos gwerth am arian y prosiectau.

Dywed y pwyllgor hefyd fod angen i’r datblygwyr sicrhau fod y cymunedau lleol yn elwa o’r prosiectau drwy greu swyddi lleol.

Maent yn nodi fod lle i fanteisio ar sgiliau gweithwyr o Gymru sydd eisoes wedi’u cyflogi ar gyfer prosiectau fel Wylfa A yn Ynys Môn.

“Dylem ddefnyddio’r nifer o weithwyr sydd â sgiliau i weithio ym myd niwclear o Gymru, a darparu hyfforddiant digonol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf,” meddai David Davies, Cadeirydd y Pwyllgor.

‘Ystyried y costau’

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi na ddylai Wylfa Newydd ar Ynys Môn gael ei adeiladu os bydd y costau trydan yn fwy na chostau prosiect Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf neu o ffynonellau adnewyddol.

O ran y safle yn Nhrawsfynydd, mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid ystyried cynllun mwy parhaus o ddadgomisiynu er mwyn “gwaredu ag effaith cau’r datblygiad ar yr ardal.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn croesawu’r syniad o ddatblygu Adweithyddion Modwlar Bach ar safle Trawsfynydd, gan bwysleisio fod angen “ystyried y costau posib.”

Dadleuol

Un grŵp sy’n chwyrn yn erbyn y prosiectau ydy PAWB, sef Pobl Atal Wylfa B.

Esbonia Dylan Morgan ar ran y grŵp: “Yr hyn sy’n sicr yw y byddai’r fath brosiect enfawr â Wylfa B yn cael effaith niweidiol iawn ar holl isadeiledd Môn a Gwynedd.”

“Byddai straen mawr ychwanegol yn cael ei roi ar y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, a gwasanaethau llywodraeth leol, yn arbennig felly gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.”

Mae’r grŵp hefyd yn poeni am effaith hir dymor y costau, yr effaith ar yr iaith Gymraeg ynghyd â pha mor debyg fydd hi i bobol leol gael swyddi.

“Mae Horizon yn cydnabod y byddai tua 75% i 80% o’r gweithlu adeiladu yn y Wylfa yn dod o’r tu allan i’r ardal leol,” meddai Dylan Morgan.

“Mae’r ardal leol yn estyn hyd at Swydd Caer a Glannau Mersi sydd o fewn y pellter teithio 90 munud yr ystyrir fel lleol.”

“Mae’n amheus iawn faint o fudd economaidd fyddai i ogledd Cymru o godi Wylfa B,” ychwanegodd.

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cydnabod yn eu hadroddiad fod ynni niwclear yn bwnc dadleuol, ond maen nhw’n nodi fod y Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR)  wedi cynnal adolygiad manwl ar effeithiau trychinebau niwclear hanesyddol a bod mesurau diogelwch yn eu lle.