Bydd trigolion gogledd Cymru yn cael cyfle cyn bo hir i weld y cynlluniau diweddaraf ar gyfer gorsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa Newydd, pan gaiff ail gam ymgynghoriad ei lansio ddiwedd mis Awst cyn gwneud cais.

Cynhelir ail gam ymgynghoriad ffurfiol Pŵer Niwclear Horizon rhwng 31 Awst a 25 Hydref i roi cyfle i bobl weld ei gynigion diwygiedig ac i ddweud eu dweud am yr hyn sydd o bwys iddyn nhw.

Dangosir amrywiaeth eang o wybodaeth am gynigion Horizon mewn cyfres o arddangosfeydd ledled Ynys Môn a Gogledd Cymru. Bydd aelodau o’r tîm yno i drafod y Prosiect ac i ateb unrhyw gwestiynau. Bydd hysbysebion yn cynnwys dyddiadau a lleoliadau’r holl ddigwyddiadau yn ymddangos yn y cyfryngau lleol o ddydd Mercher nesaf, 27 Gorffennaf, ymlaen.

Bydd y Prosiect i adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Ynys Môn yn dod â buddsoddiad sylweddol i’r ynys ac i ranbarth gogledd Cymru yn ehangach,ac yn helpu i sicrhau ei dyfodol economaidd yn y tymor hir.

Yn ogystal â datblygu Wylfa Newydd, mae angen cyfleusterau eraill ar Horizon yn Ynys Môn er mwyn sicrhau ei fod yn gallu adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer yn ddiogel ac yn effeithlon.

“Ystyried yr holl adborth”

Dywedodd Carl Devlin, Cyfarwyddwr Rhaglen yn Horizon: “Rydym wedi ystyried yr holl adborth a gawsom hyd yma i’n helpu i berffeithio ein cynigion diweddaraf. Dyma’r ymgynghoriad olaf a drefnwyd ar y Prosiect yn ei gyfanrwydd cyn inni gyflwyno ein cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn 2017, felly mae’n bwysig iawn fod pobl yn cael dweud eu dweud ar y pethau sydd o bwys iddyn nhw.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ar Ynys Môn fel rhan o Brosiect Wylfa Newydd, o addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, i gontractau i fusnesau lleol a chefnogaeth i’r Gymraeg, ei diwylliant a mentrau cymunedol.

“Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn ystod yr ymgynghoriad sydd ar y gweill ac yn dilyn y gwaith a wnaethpwyd eisoes gennym yn lleol.”

Bydd tîm Horizon ar gael yn Sioe Ynys Môn eleni eto, ar 9-10 Awst, lle bydd rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael hefyd. Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Horizon o 31 Awst ymlaen, www.horizonnuclearpower.com/consultation.