David Nicholas Davies wedi'i gyhuddo o lofruddio Emma Baum
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi dweud y byddan nhw’n  ymchwilio i ymateb Heddlu Gogledd Cymru cyn i gorff mam ifanc gael ei darganfod yng Ngwynedd.

Daethpwyd o hyd i gorff Emma Baum, 22, mam i fachgen dwyflwydd oed, yng ngardd gefn ei chartref  yn Ffordd Llwyndu, Penygroes fore dydd Llun, 18 Gorffennaf.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn ymosodiad.

Ymddangosodd David Nicholas Davies, 25, gerbron ynadon yng Nghaernarfon y bore ‘ma wedi’i gyhuddo o’i lofruddio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr IPCC y byddan nhw’n ymchwilio i’r “ymateb gan Heddlu Gogledd Cymru” wedi i’r llu gyfeirio’r achos atyn nhw.

Meddai’r llefarydd: “Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio’n annibynnol i’r ymateb gan Heddlu Gogledd Cymru cyn i gorff Emma Baum gael ei ddarganfod mewn cyfeiriad yn Mhenygroes ar fore 18 Orffennaf.

“Daeth penderfyniad yr IPCC yn dilyn asesiad o atgyfeiriad gan Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn yn cysylltu â theulu Ms Baum yn fuan i esbonio ein cyfranogiad.

“Mae dyn 25 mlwydd oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth gan Heddlu Gogledd Cymru. Oherwydd bod achos troseddol ar y gweill, nid ydym yn gallu dweud unrhyw beth arall ar hyn o bryd.”