Mae disgybl o Abertawe wedi marw tra ar drip ysgol i Sbaen.

Roedd Michael Cura, myfyriwr chweched dosbarth 16 oed o Ysgol Gatholig Esgob Vaughan, yn cymryd rhan mewn pererindod ddoe pan fu farw’n “sydyn” yn ôl datganiad ar wefan yr ysgol.

Roedd wedi bod yn seiclo yng Ngalicia.

Mae datganiad ar wefan yr ysgol yn dweud: “Mae Ysgol Gatholig Bishop Vaughan wedi ei hysgwyd gan farwolaeth sydyn myfyriwr chweched dosbarth wrth gymryd rhan mewn pererindod i Sbaen ddoe.

“Mae’r ysgol yn cefnogi teulu’r myfyriwr ar yr adeg anodd hwn ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i deulu a’i ffrindiau.”