Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gymeradwyo cynlluniau heddiw i ddatblygu uned fodern newydd i ofalu am fabanod sâl iawn yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae’r cynllun yn werth tua £1.8 miliwn ac os bydd datblygiadau’n parhau, mae’n debyg y bydd yn agor erbyn 2018.
Bwriad gwreiddiol y Bwrdd oedd israddio’r uned yn Ysbyty Glan Clwyd, gan olygu mai bydwragedd yn hytrach na meddygon fyddai’n gyfrifol am yr uned honno.
Ond bu gwrthwynebiad chwyrn, gyda phobol leol yn poeni y byddai’r cynlluniau’n rhoi mamau beichiog a babanod mewn perygl os byddai rhywbeth yn mynd o’i le yn ystod yr enedigaeth.
Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant eisoes wedi argymell cynllunio uned gofal dwys i fabis newydd mewn un safle canolog yn y gogledd.
Pryderon pobol Bangor
Ond mae pobol Bangor a’r cyffiniau wedi codi pryderon, gydag ofnau y bydd yr uned yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei israddio. Dydy’r Bwrdd Iechyd heb gadarnhau os bydd hyn yn digwydd.
Bydd y rhan fwyaf o’r arian ar gyfer datblygu’r uned yn Ysbyty Glan Clwyd yn dod gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn cynnwys gwella’r seilwaith trydanol yn yr uned bresennol ac i dalu am grud cynnal symudol arall ar gyfer trosglwyddo’r babanod difrifol wael.