Sioned James (Llun: Côrdydd)
Mae’r arweinyddes a sylfaenydd Côrdydd, Sioned James wedi marw’n 41 oed.
Yn ystod ei gyrfa, roedd hi’n arweinyddes ar sawl côr, gan gynnwys Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Chantorion Teifi.
Cafodd ei hyfforddi gan John Hugh Thomas ac Islwyn Evans.
Yn un o frodorion Llandysul, roedd hi’n arwain côr Ysgol Gerdd Ceredigion yn 16 oed.
Sefydlodd hi Gôrdydd yng Nghaerdydd yn 2000, gan fynd ymlaen i ennill Côr Radio’r Flwyddyn y BBC yn 2003, ac maen nhw wedi ennill gwobrau lu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
I ffwrdd o’r byd cerddorol, roedd hi’n asiant actorion a chyflwynwyr teledu, ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan gyfrannu at y cwrs Theatr, Cyfryngau a Cherddoriaeth.
Reodd hi hefyd yn wyneb mewn sawl cyfres ar S4C, gan gynnwys Con Passionate a Codi Canu.
Roedd hi’n briod â’r cyflwynydd Gareth Roberts, ac yn ferch-yng-nghyfraith i’r actor J.O. Roberts sydd wedi marw’n 84 oed.