Meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth
Mae meithrinfa yn Aberystwyth wedi cau am dros wythnos ar ôl i blentyn ifanc gael ei adael ar fws mini am dros ddwy awr ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn.

Cafodd y plentyn ei adael yn y bws mini ddydd Mawrth y tu allan i feithrinfa Camau Bach a phencadlys y Mudiad Meithrin.

Mae’r aelod o staff oedd yn gyfrifol am y plentyn wedi’i gwahardd o’i gwaith ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a’r Bwrdd Diogelu lleol.

Dywedodd y Mudiad Meithrin y bydd “ymchwiliad llawn” i’r digwyddiad hefyd.

‘Digwyddiad difrifol’

“Yn dilyn digwyddiad difrifol heddiw, pan adawyd plentyn – heb yn wybod i staff – mewn bws mini am dros ddwy awr tu allan i feithrinfa Camau Bach, cyfeiriwyd y mater yn syth i AGGCC (CSSIW) a’r Bwrdd Diogelu lleol,” meddai llefarydd ar ran Camau Bach mewn datganiad.

“Gwaharddwyd yr aelod o staff oedd yn gyfrifol am y plentyn o’i gwaith yn syth.

“Mae ymchwiliad llawn i ddilyn ac er mwyn caniatáu hyn, mae Camau Bach ar gau am wythnos.”

Neges i rieni

Nos Fawrth, fe bostiodd Meithrinfa Camau Bach i rieni ar Facebook, yn ei hysbysu am y penderfyniad i gau ac yn ymddiheuro “am unrhyw anghyfleustra.”

Cafodd rieni alwad ffôn hefyd, gyda’r feithrinfa yn dweud  ei bod yn cau am resymau “cynnal a chadw a hyfforddi staff”.

Fe wnaeth un rhiant ymateb i’r neges ar Facebook, gan ddweud ei bod yn teimlo’n “anghyfforddus iawn” yn gadael ei merch yn eu gofal pan fo “rhywbeth difrifol yn amlwg wedi digwydd.”

Bydd y feithrinfa – yr unig un benodedig Cymraeg yn Aberystwyth – yn ail-agor dydd Iau, 28 Gorffennaf.

Mae Camau Bach yn cynnig gofal i blant rhwng chwe wythnos oed ac oed ysgol, gyda lle am hyd at 105 o blant.

‘Gofid’

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas: “Mae hyn yn achos difrifol dros ben ac yn gyntaf, gobeithiaf yn fawr fod y plentyn yn holliach.

“Mae’n anodd deall sut all hyn ddigwydd ac mae’n peri gofid ynom ni gyd. Rhaid gobeithio mai digwyddiad ynysig, unigol yw hyn ac na fydd yn digwydd eto.”

Ychwanegodd: “Gyda Meithrinfa Penglais wedi cau ei drysau, rhaid i Feithrinfa Camau Bach a’r Mudiad Meithrin sicrhau bod yna gwelliannau pendant er mwyn sicrhau bod gan rieni lleol ffydd yn nyfodol y feithrinfa.”