Tony Blair Llun: PA
Mae teuluoedd rhai o’r milwyr a fu farw yn Rhyfel Irac wedi lansio ymgyrch ar-lein i godi arian am weithredu cyfreithiol posib yn erbyn y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, a swyddogion y llywodraeth.

Mae’r Grŵp Ymgyrch Teuluoedd Rhyfel Irac wedi lansio’r dudalen crowdfund i godi £50,000 i “ddod â’r rhai sy’n gyfrifol am y rhyfel a marwolaethau ein hanwyliaid o flaen eu gwell.”

Cafodd Adroddiad Chilcot i Ryfel Irac ei gyhoeddi bythefnos yn ôl, ac roedd yn feirniadol iawn o Tony Blair, gwleidyddion blaenllaw ar y pryd ac uwch swyddogion, dros eu gweithredoedd cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymladd.

Cafodd 14 o filwyr o Gymru eu lladd yn Irac, ymhlith y 179 o Brydain a gafodd eu lladd i gyd.

Reg Keys yn arwain

Mae’r grŵp ymgyrchu yn cael ei arwain gan Reg Keys, a oedd yn arfer byw yn Llanuwchllyn, a gollodd ei fab, Thomas; a Roger Bacon o Lundain, a gollodd ei fab Matthew.

Meddai’r ddau ar y wefan, “Cyn i Matthew, Tom a chymaint o’u cyd-weithwyr farw, roeddem yn gwybod am y peryglon y mae pob milwr y fyddin Brydeinig yn cymryd arno wrth wasanaethu’r Frenhines a’r wlad.

“Fodd bynnag, mae adroddiad hirddisgwyliedig Ymchwiliad Irac (Chilcot) wedi cadarnhau yr oedd methiannau difrifol yn arwain at y rhyfel, yn ei gynllunio a’i gynnal, a arweiniodd at farwolaethau diangen.

“Dylai ein milwyr fyth eto gael eu haberthu yn ddidostur gan uchelgais gwleidyddol a diffyg cyfrifoldeb a methiannau’r llywodraeth a Whitehall.”

Codi £150,000

Mae’r grŵp yn gobeithio codi £150,000 i gyd i ariannu eu cyfreithwyr – McCue a’i Bartneriaid – sydd ar hyn o bryd yn gweithio am ddim – i ddadansoddi’r adroddiad 2.6 miliwn o eiriau gan Syr John Chilcot.

Y bwriad wedyn yw paratoi “barn gynhwysfawr wedi’i chymeradwyo gan gyngor arbenigol.”

Mae Tony Blair wedi amddiffyn y penderfyniadau wnaed i fynd i ryfel yn Irac, gan ddweud ei fod yn credu ar y pryd mai dyna’r peth gorau i wneud.