Ar ôl iddi gael ei datgelu bod Gweinyddiaeth Chwaraeon Rwsia wedi annog a rheoli dopio ymhlith ei hathletwyr, mae galwadau heddiw ar i’r holl dîm gael ei wahardd o’r Gemau Olympaidd yn Rio.

Asiantaeth Gwrth-Dopio’r Byd sy’n arwain y galwadau yn dilyn adroddiad beirniadol oedd yn dangos hyd a lled y twyllo oedd yn digwydd o fewn y tîm.

Roedd adroddiad yr athro o Ganada, Richard McLaren, yn dweud bod chwaraeon Rwsia wedi tanseilio cystadleuaeth deg mewn sawl digwyddiad, gan gynnwys y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 a gemau’r gaeaf yn Sochi yn 2014.

Mae’r asiantaeth gwrth-dopio wedi gofyn i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol i ystyried gwahardd holl athletwyr Rwsia o’r Gemau Olympaidd fis nesa’.

Mae nifer o athletwyr wedi ychwanegu eu lleisiau at y galwadau hefyd.

Fe fydd y pwyllgor Olympaidd yn cynnal cyfarfod brys heddiw i drafod y mater, gyda phosibilrwydd y bydd penderfyniad cyn diwedd y dydd.

Ond gyda Phwyllgor Olympaidd Rwsia eisoes yn apelio yn erbyn gwaharddiad ar ei dîm athletau ym mis Tachwedd, mae’n debygol y bydd y pwyllgorau yn aros tan fod y Llys Cyflafareddu Chwaraeon yn gwneud penderfyniad yr wythnos nesa’.

Galw ar FIFA i ymchwilio

Mae’r asiantaeth gwrth-dopio wedi galw ar y corff llywodraethu pêl-droed, FIFA, i ymchwilio i ran gweinidog chwaraeon Rwsia, Vitaly Mutko, yn y cynllwyn.

Mae hyn am ei fod hefyd yn llywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Rwsia, yn aelod o gyngor FIFA ac yn gadeirydd ar bwyllgor trefnu Cwpan y Byd 2018.

Y cynllwyn

Clywodd adroddiad Richard McLaren, fod gwasanaeth cyfrinachol Rwsia wedi darganfod sut i agor a chau poteli “diogel” oedd yn cadw samplau wrin.

Roedd gweddill y cynllun yn cynnwys smyglo samplau athletwyr Rwsia o labordy Sochi drwy dwll yn y wal, gydag asiant y gwasanaeth cyfrinachol yn tynnu capiau’r poteli a gweithiwr labordy yn ei hail-lenwi gyda wrin yr athletwyr, pan nad oedd cyffuriau yn eu system.

Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi cyhoeddi datganiad, gan dderbyn rhai agweddau ar yr adroddiad ond gwadu rhannau eraill.

Cwestiynodd os oedd y canfyddiadau yn rhai “dibynadwy”, ond fe ddywedodd y byddai’r swyddogion sy’n cael eu henwi yn yr adroddiad yn cael eu diarddel yn dilyn ymchwiliad i’r adroddiad.