Canlyniadau'r pôl piniwn
Dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim am weld gemau cartref pêl droed Cymru yn cael eu symud i Stadiwm y Principality, yn ôl pôl piniwn diweddaraf golwg360.
63% a bleidleisiodd i gadw’r gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd 11%, am weld y gemau’n symud i’r stadiwm mwy, sy’n gallu cynnal 74,500 o bobol, o gymharu â’r 30,000 o seddi sydd yn y stadiwm lai.
25% o’r bleidlais, o fwy na 130 o bobol, oedd am weld y gemau yn cael eu chwarae yn y ddwy stadiwm – yn dibynnu ar bwysigrwydd y gêm.
Fe godwyd y cwestiwn yr wythnos ddiwetha’, wrth i ddiddordeb yn y tîm cenedlaethol gynyddu yn dilyn ei lwyddiant yn Ewro 2016, a chan awgrym prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.
Er hynny, mae hyfforddwr y tîm, Chris Coleman, wedi mynnu mai Stadiwm Dinas Caerdydd yw “ein cartref.”
Dadl dros ac yn erbyn
Mae Cymru wedi chwarae yn Stadiwm y Principality, neu Stadiwm y Mileniwm bryd hynny, yn y gorffennol ac roedd y stadiwm yn aml yn llawn yn ystod cyfnod cymharol lwyddiannus Mark Hughes fel rheolwr.
Er hynny, dirywiodd y gefnogaeth dros y blynyddoedd ac ers diwedd cyfnod Gary Speed fel rheolwr, ac yna cyfnod Chris Coleman wrth y llyw, mae’r tîm wedi ymgartrefu yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Y brif ddadl o blaid symud gemau i Stadiwn Principality yw maint y stadiwm, gan roi cyfle i lawer mwy o bobl weld eu harwyr yn chwarae.
Ond mae llawer o gefnogwyr y tîm yn poeni na fydd modd llenwi gemau bob tro yn Stadiwm y Principality a bod diffyg awyrgylch mewn stadiwm mwy.
Mae Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru wedi galw am roi blaenoriaeth tocynnau i’r selogion ymhlith cefnogwyr Cymru, yn dilyn twf mawr ym mhoblogrwydd y tîm.