Joe Allen (llun: CBDC)
Cewri Uwch Gynghrair Lloegr, Manchester United, ydy’r clwb diweddaraf i gael eu cysylltu â chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen.
Mae’r dyfalu ynglŷn â dyfodol Allen gyda’i glwb presennol, Lerpwl, wedi bod yn llusgo ers diwedd y tymor diwethaf gyda’i reolwr, Jurgen Klopp, yn ffafrio James Milner, Jordan Henederson ac Emre Can yng nghanol cae.
Roedd Allen yn un o chwaraewyr gorau Cymru yn ystod eu hymgyrch wych yn Ewro 2016, ac nid yw’n syndod bod nifer o glybiau’n dangos diddordeb mawr yn y gŵr o Sir Benfro.
Denu diddordeb
Roedd adroddiadau cyn yr Ewros yn ei gysylltu ag un o brif dimau Sbaen, Sevilla, a chewri Yr Alban, Celtic, sydd bellach dan reolaeth cyn-reolwr Allen yn Abertawe a Lerpwl, Brendan Rodgers.
Roedd sôn bod Abertawe’n awyddus i’w ddenu nôl i Dde Cymru hefyd ag yntau â dim ond blwyddyn o’i gytundeb yn weddill gyda Lerpwl.
Yn ôl adroddiadau, roedd Lerpwl wedi gwrthod cynnig o £8 miliwn am Allen, a gostiodd £15m pan symudodd i’r cyfeiriad arall gyda Rodgers bedair blynedd yn ôl.
Mae’n debyg bod perfformiadau Allen wedi codi rhywfaint ar ei werth, ond mae’n annhebygol bod Abertawe’n fodlon talu llawer mwy na £10m am eu cyn chwaraewr. Fe enwyd Allen, ynghyd â chwaraewr canol cae arall Cymru, Aaron Ramsey, yn ‘nhîm y twrnament’ swyddogol Ewro 2016.
United yn bosibilrwydd?
Un tîm sydd â digon o arian ydy Man United, ac yn ôl nifer o’r papurau dydd Sadwrn, gan gynnwys y Liverpool Echo, mae eu rheolwr newydd Jose Mourinho yn awyddus i sicrhau gwasanaeth ‘Pirlo Penfro’.
Mae disgwyl i United arwyddo eu cyn-chwaraewr ieuenctid, Paul Pogba, o Juventus am swm o tua £100m ond fe allai’r seren o Ffrainc ddechrau’r tymor ochr yn ochr â Joe Allen yng nghanol cae tîm Old Trafford.
Petai Allen yn symud i United, ef fyddai’r chwaraewr cyntaf i drosglwyddo rhwng y ddau glwb yma ers i Allenby Chilton wneud hynny ym 1938.
Tîm arall sy’n cael eu cysylltu’n gryf ag Allen ydy West Ham, ac mae sôn hefyd bod cyn reolwr Cymru, Mark Hughes, yn awyddus i ddenu’r chwaraewr i Stoke.