Yr Wyddfa
Daeth y rhedwr rhyngwladol o Loegr, Chris Smith i’r brig yn 41fed ras yr Wyddfa eleni.
Cwblhaodd y ras mewn 1 awr a 5 munud, gyda Chris Farell yn croesi’r llinell yn Llanberis, ddau funud yn ddiweddarach.
Fe fentrodd cannoedd o redwyr i gopa’r Wyddfa ddydd Sadwrn mewn tywydd gwlyb tu hwnt. Eleni roedd dros 650 o redwyr wedi cofrestru i redeg y ras 10 milltir o hyd sy’n cael ei hystyried ymhlith yr anoddaf ym Mhrydain.
O ran y marched, daeth y Wyddeles Sarah Mulligan i’r brig gan orffen y ras mewn 1 awr ac 20 munud gyda Heidi Dent o Loegr yn dod yn ail.
Roedd rhai o redwyr gorau Prydain yn cystadlu i gyrraedd y copa 1085 metr uwchlaw’r môr, gyda thimau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Eidal yn cymryd rhan.
Tyrrodd miloedd i Lanberis i wylio’r rhedwyr yn dechrau ac yn gorffen y ras gystadleuol ac eleni fe ddychwelodd y ras i’w man cychwyn arferol gan ddechrau a gorffen ym Mharc Padarn, Llanberis .