Tîm pêl-droed digartref Cymru yn ymarfer ar gyfer Cwpan y Byd yn Glasgow Llun: Homeless World Cup
Yn dilyn llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 fis diwethaf yn cyrraedd y rownd gynderfynol, mae tîm pêl-droed digartref Cymru hefyd wedi bod yn llwyddiannus.

Daeth y tîm pêl-droed i’r brig trwy gipio cystadleuaeth y darian yng Nghwpan y Byd i’r digartref a gynhaliwyd yn Glasgow dros y penwythnos.

Llwyddodd Cymru i guro Zimbabwe 8-5  gyda’r hanner cyntaf yn gystadleuol tu hwnt gyda naw gôl yn cael eu sgorio gan y ddau dîm cyn hanner amser.

Ond nid oedd llwyddiant i dîm Merched Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd y trydydd safle yng nghystadleuaeth y Plât gan guro Norwy 9-2.

Mecsico oedd pencampwyr Cwpan y Byd i’r digartref am yr ail flwyddyn yn olynol, gan guro Brasil 6-1.

Mae Cwpan y Byd i’r digartref yn ddigwyddiad blynyddol sy’n defnyddio pêl-droed i ysbrydoli pobl ddigartref i newid eu bywydau. Llwyfannwyd y gystadleuaeth gyntaf yn Graz yn Awstria yn 2003.