Safle'r trac rasio yng Nglyn Ebwy
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad ar ddyfodol buddsoddiad y trac rasio yng Nglyn Ebwy’r wythnos hon.

Daw hyn wrth i’r cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu’r trac rasio, Cylchffordd Cymru, alw eto ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i’r cynllun a gwarantu cyfran o’r buddsoddiad yn unig y tro hwn.

Ym mis Ebrill eleni, fe wrthododd Llywodraeth Cymru warantu buddsoddiad llawn i’r cynllun. Ond, fe wnaethon nhw bwysleisio fod eu drysau’n parhau ar agor pe byddai modd sicrhau “buddsoddiad preifat digonol” hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth, “ym mis Ebrill, penderfynwyd y byddai risg annerbyniol i yswirio’r buddsoddiad cyfan o £357.4 miliwn ar gyfer y prosiect.”

‘Ystyriaeth fanwl’

Er hyn, ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynnig wedi’i adolygu ynglŷn â’r prosiect ers hynny a’u bod wedi rhoi “ystyriaeth fanwl i’r cynigion dros yr wythnosau diwethaf.”

“Rydyn ni wedi gweithio gyda Chylchffordd Cymru i ddarparu cefnogaeth i’r prosiect hwn am gyfnod hir,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n brosiect sylweddol ac rydym wastad wedi bod yn glir fod unrhyw gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan y trethdalwyr yn gymesur ac yn deg.”

Mae disgwyl i  Ysgrifennydd Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru, Ken Skates wneud cyhoeddiad am y mater yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi Russell George wedi dweud ei bod yn “bryd i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad terfynol” a bod angen gwneud hynny cyn gwyliau’r haf.

“Fe allai Cylchffordd Cymru greu miloedd o swyddi a denu tri chwarter miliwn o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn. Mae’n gyfle gwych i Gymru.”