Gwaith dur Tata, Port Talbot (llun: PA)
Rhaid rhwystro Tata rhag ffurfio partneriaeth gyda chwmni o’r Almaen i redeg eu gweithfeydd dur ym Mhrydain, yn ôl Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid a’r Economi.

Mae’n rhybuddio y gallai uniad o’r fath arwain at gau gwaith dur Port Talbot.

Roedd yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ymateb i gyhoeddiad gan Tata ddoe eu bod wedi rhoi’r gorau i geisio gwerthu eu gweithfeydd dur dros dro.

“Mae’n siom fawr i mi na fydd y cynllun i reolwyr a gweithwyr brynu Port Talbot yn gallu mynd ymlaen i gam nesa’r broses,” meddai.

“Rydym wedi clywed sibrydion mai un o’r atebion yw partneriaeth bosibl â ThyssenKrupp, y gwneuthurwr dur o’r Almaen.  Ni chedwn y byddai hyn er budd hirdymor y diwydiannau dur yng Nghymru a Phrydain.

“Yn wir, os yw’r sibrydion hyn yn profi i fod yn wir ac oni wneir ymrwymiad hirdymor i ddyfodol eu gweithfeydd yng Nghymru, yna byddwn yn galw ar lywodraeth Prydain i gychwyn gwladoli dros dro weithfeydd Tata ym Mhrydain er mwyn gallu parhau gyda’r broses o werthu.

“Byddai uno â’r gwneuthurwr dur o’r Almaen yn debygol iawn o arwain at cau gwaith dur Port Talbot ac at ganolbwyntio gweithgaredd yn ijmuiden, a rhaid rhwystro hyn, beth bynnag y gost.”