Tony Blair a George Bush, a ddau a fu'n gyfrifol am refer Irac (llun: PA)
Mae aelod blaenllaw arall o’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi galw am achos llys yn erbyn Tony Blair am y ffordd y gwnaeth arwain Prydain i ryfel yn Irac.

Mae’r Athro Kenneth O Morgan, sydd hefyd yn arglwydd, yn cyhuddo’r cyn-brif weinidog o gyflawni gweithred anghyfreithlon wrth baratoi am y rhyfel yn 2003.

Dywed fod adroddiad Chilcot yn dangos mai’r unig reswm y cafodd Tony Blair led-gymeradwyaeth y twrnai cyffredinol dros ymosod oedd fod y cyngor a roddodd hwnnw’n dibynnu ar wybodaeth a gafodd gan y cyn-brif weinidog.

“Mewn geiriau eraill, roedd Blair yn cynghori ei hun fod ymosodiad yn gyfreithlon,” meddai’r Athro Morgan mewn llythyr yn y Guardian ddoe.

“Mae hyn y golygu achos difrifol o dorri cyfraith ryngwladol wedi digwydd, heb unrhyw gofnod ysgrifenedig.

“Mae gweithred anghyfreithlon yn gofyn am achos mewn llys barn.”