Mae adroddiadau y bydd polisi newydd gan y Blaid Lafur ar amddiffyn yn cynnig cyfaddawd ar arfau niwclear – er gwaethaf cefnogaeth yr arweinydd Jeremy Corbyn i ddiarfogi unochrog.

Mae disgwyl y bydd ei hadolygiad polisi yn gosod pum prawf ar gyfer cadw statws Prydain fel grym niwclear, gan gynnwys a yw arfau niwcliar yn cyfrannu at amddiffyn y wlad, a fydden nhw’n cyfrannu at ddiarfogi amlochrog ac a ydyn nhw’n cynnig gwerth am arian.

Gyda phleidlais yn debygol yn Nhŷ’r Cyffredin yn fuan ar adnewyddu llongau tanfor Trident, gallai’r pwnc arwain at ddyfnau’r rhwyg rhwng Jeremy Corbyn ac ASau Llafur.

Yn ôl adroddiad ar raglen Newsnight BBC2 neithiwr, mae Jeremy Corbyn yn credu y gallai polisi o’r fath gynnig cyfaddawd rhwng diarfogi unochrog a chynnal system lawn o arfau niwclear.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur nad oes dim byd wedi’i benderfynu’n derfynol eto.

“Mae’r adolygiad amddiffyn yn brosiect sy’n dal i edrych beth sydd orau i Brydain a bydd yn adrodd maes o law,” meddai.

“Rydym yn asesu effaith Brexit ac adroddiad Chilcot wrth inni ystyried manylion yr ymateb polisi – a mater i aelodau’r blaid fydd hi i benderfynu rhaglen bolisi Llafur yn y pen draw.”