Kelly Kennedy (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dynes 25 oed o Abertawe a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig neithiwr.

Bu farw Kelly Kennedy, sy’n wreiddiol o Glydach yn Abertawe, wedi i’w char Ford KA wrthdaro â char Honda Civic.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A4067 rhwng Glais a Phontardawe tua 10.15yh nos Lun (Gorffennaf 4).

Mae dau ddyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn parhau yn y ddalfa.

Mae teulu Kelly Kennedy wedi talu teyrnged iddi gan ddweud: “Hi oedd ein ffrind gorau ac roedd hi fel craig i’w brawd.”

“Roedd hi eisiau mynd i deithio a dydyn ni ddim yn gwybod beth rydyn ni’n mynd i wneud hebddi.”

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r achos ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600250261.