Carfan Cymru'n dathlu yn Ffrainc
Mae erthygl yn y Daily Mail yn honni na fyddai Cymru wedi gallu curo Gwlad Belg o 3-1 yn rownd wyth olaf Ewro 2016 oni bai am y Saeson yn y garfan.
Gyda sylw’r wasg Brydeinig wedi’i hoelio ar Gymru ers i Loegr golli o 2-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ yn rownd yr 16 olaf, mae llwyddiant y Cymry wedi cael ei ganmol yn eang.
Ond fe dynnodd yr erthygl gan Andy Warren sylw at y ffaith mai tri Sais – Ashley Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes – oedd wedi sgorio’r goliau sy’n golygu bod Cymru’n herio Portiwgal yn y rownd gyn-derfynol.
Yn ôl yr erthygl, daeth ymgyrch Lloegr i “derfyn cywilyddus”, ond ni fyddai “rhediad tylwyth teg” Cymru “wedi bod yn bosibl oni bai am chwaraewyr a gafodd eu geni yn Lloegr”.
Cafodd Robson-Kanu ei eni yn Llundain, Vokes yn Southampton a chapten Cymru, Williams yn Wolverhampton – a’r tri yn gymwys drwy neiniau a theidiau.
Cafodd naw o garfan Cymru eu geni yn Lloegr, a dim ond Gareth Bale (Real Madrid) ac Owain Fôn Williams (Inverness) o blith y 23 sy’n chwarae y tu allan i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.
Ond mae’r erthygl hefyd yn cyfaddef y gallai Cymru gyflawni rhywbeth nad yw’r un Sais wedi’i gyflawni “ers 50 mlynedd” – cyrraedd rownd derfynol un o’r cystadlaethau rhyngwladol mawr.