Stephen Crabb Llun: PA
Mae’r Cymro Stephen Crabb wedi cyhoeddi ei fwriad i ymgeisio i olynu David Cameron fel Prif Weinidog nesaf Prydain.

Yn ôl y wefan Politico, roedd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau wedi anfon e-bost at Aelodau Seneddol Ceidwadol yn dweud ei fod am roi ei enw yn yr het.

Mae’n debyg bod  Aelod Seneddol Preseli Sir Benfro a’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, yn cyflwyno cais ar y cyd, ac mai Javid fyddai’n cael ei benodi’n Ganghellor pe bai Stephen Crabb yn llwyddo.

Maen nhw wedi recriwtio Jeremy Wright, y Twrne Cyffredinol, fel eu rheolwr ymgyrch ac fe fyddan nhw’n cyhoeddi eu cais yn ffurfiol bore fory.

Stephen Crabb yw’r gweinidog cyntaf yn y Cabinet i gyhoeddi ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog, a fydd yn golygu arwain y trafodaethau ynglyn a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Poblogaidd’

Bu Stephen Crabb yn gyn-Ysgrifennydd Cymru tan yn ddiweddar, ac mae’n boblogaidd iawn ymysg ei gyd-Doriaïd.

Dywedodd y dylai arweinydd nesaf y blaid fod yn rhywun “sy’n deall anferthwch y sefyllfa ac sydd â chynllun clir i gyflawni disgwyliadau’r 17 miliwn o bobol a bleidleisiodd i adael yr wythnos ddiwethaf.”

Roedd Stephen Crabb ei hun wedi ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gwendidau

Er iddo wneud enw iddo’i hun fel Ysgrifennydd Cymru ac fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, mae’n dal i gael ei weld gan lawer yn ddibrofiad, a dydy e ddim yn adnabyddus iawn y tu allan i’r Blaid Geidwadol – gallai hynny fod yn anodd iddo.

Y ffefrynnau i olynu David Cameron ar hyn o bryd yw’r ymgyrchydd blaenllaw dros adael yr UE, Boris Johnson, a’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Mae Boris Johnson wedi dweud heddiw na fyddai’n cynnal etholiad cyffredinol brys petai’n ennill y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi dweud ei fod “yn ystyried o ddifrif” ymgeisio am y swydd.

Mae wedi awgrymu y dylai Prydain gynnal pleidlais arall ar yr Undeb Ewropeaidd, unai drwy refferendwm, etholiad cyffredinol neu gais ym maniffesto’r Ceidwadwyr.

Dywedodd y dylai cytundeb gael ei wneud sy’n cynnwys mynediad at y farchnad sengl a chyfaddawd ar symudiad rhydd gweithwyr.

Mae ’na ddyfalu y bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Nicky Morgan, ac Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Ynni a Hinsawdd, a oedd am i Brydain aros yn rhan o’r UE, gyhoeddi eu bod yn sefyll hefyd.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud nad yw’n bwriadu sefyll o gwbl.

Mae’r Brexitwyr a allai fod yn y ras yn cynnwys y Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd Andrea Leadsom, Priti Patel, y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, a  Liam Fox, y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae’r cyfnod enwebu yn agor  fory (dydd Mercher) ac yn cau nos Iau.

Roedd disgwyl i’r Prif Weinidog newydd gael ei benodi erbyn 2 Medi ond mae’r cyfnod bellach wedi cael ei ymestyn i 9 Medi.