Logo Plaid Cymru Ifanc Llun: O Facebook
Mae criw o bobol ifanc Pen Llŷn wedi dod at ei gilydd i sefydlu cangen Plaid Cymru Ifanc yn eu hardal.

Daw hyn yn dilyn “siom” y canlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener, gan geisio “bwydo rhwystredigaeth pobol ifanc i rywbeth positif.”

“Mae pobol ifanc yn torri eu calonnau a phobol dan 18 oedd ddim yn cael pleidleisio, maen nhw wedi cael cymaint o siom,” meddai Lois Angharad, un o sylfaenwyr y grŵp.

“Dw i’n edrych am brynu tŷ a dw i’n meddwl rŵan, ydw i’n mynd i allu fforddio prynu tŷ? Beth sy’n mynd i ddigwydd mewn blwyddyn neu ddwy os ydw i’n aros?

“Mae cwestiynau fel ‘na yn codi, heb sôn am bobol sydd isio mynd i brifysgol, yn meddwl, ydw i’n mynd i gael arian o gwbl? Ydw i’n mynd i allu fforddio mynd? Yr ansicrwydd ydy’r peth gwaetha’.”

Ychwanegodd ei bod yn credu bod llawer o bobol Cymru heb ddeall yr hyn “mae’r Undeb Ewropeaidd wedi’i roi” i’r wlad a bod llawer wedi “llyncu’r holl godi ofn am fewnfudo.”

“Rŵan ydy’r amser i wneud rhywbeth”

Er mai ym Mhen Llŷn mae un o gadarnleoedd Plaid Cymru, roedd y grŵp yn dal i deimlo eu bod nhw am greu cangen ar wahân i bobol ifanc, gan nad oes “cymaint sy’n apelio at bobol ifanc.”

Yn ôl y grŵp, mae’r ymateb wedi bod yn “frwdfrydig iawn”, ac mai “rŵan ydy’r amser i wneud rhywbeth o ddifri’.”

“Mae pobol hŷn wedi bod mor gefnogol hefyd, dw i’n meddwl bod nhw jyst yn falch ofnadwy bod ni’n gwneud hyn.”

Ar hyn o bryd y bwriad yw cael criw at ei gilydd i drafod a gwneud pethau “ymarferol” i helpu yn y gymuned fel mewn banciau bwyd neu gasglu arian a gwneud hynny yn enw Plaid Cymru.

“Mae’n cyflawni dau beth – gwneud rhywbeth am y refferendwm a hefyd cynyddu cefnogaeth Plaid Cymru achos rydan ni’n teimlo mai nhw ydy’r unig obaith sydd gan Gymru rili,” ychwanegodd Lois Angharad.