Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates
Fe fydd ymchwiliad lleol cyhoeddus yn cael ei gynnal yr hydref hwn i ystyried holl gynlluniau ffordd osgoi’r M4, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi heddiw.

Yn ei ddatganiad yn y Senedd, dywedodd Ken Skates y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd ac yn para 5 mis yn yr Hydref.

Caiff yr ymchwiliad ei gynnal gan Sefydliad Lysaghts, Casnewydd, ac fe fydd Arolygydd Annibynnol yn ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynllun sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru – sef y Llwybr Du.

‘Parhau ai peidio’

Ychwanegodd Ken Skates y bydd yr ymchwiliad yn gyfle “i graffu ar y manylion mewn amgylchedd agored a thryloyw.

“Bydd yr adborth a gawn o’r ymchwiliad yn ein helpu i wneud penderfyniad un ai i barhau â’r gwaith adeiladu ai peidio,” esboniodd.

Dywedodd hefyd fod prosiect yr M4 “ynghyd â gwelliannau seilwaith Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a’r prosiect Metro yn bwysig iawn i’n gweledigaeth ni ar gyfer creu system drafnidiaeth effeithiol ac integredig yng Nghymru.”

“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi llwyddo i symud y mater hwn yn ei flaen mor gyflym.”

Cam nesaf?

Y cam nesaf yw cynnal cyfarfod ‘cyn-ymchwiliad’ ar Orffennaf 18 ac, os bydd yr Arolygydd yn cymeradwyo’r cynllun wedi’r ymchwiliad, mae disgwyl i’r ffordd osgoi fod yn agored erbyn Hydref 2021.

Bywyd gwyllt

Mae’r cynllun serch hynny, a’r Llwybr Du yn arbennig, wedi ennyn ymateb chwyrn gan fudiadau amgylcheddol.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth cynrychiolwyr o’r mudiadau anfon llythyr at Ysgrifennydd yr Economi yn galw arno i ailystyried y cynlluniau.

Maen nhw’n mynegi pryderon y byddai’r ffordd yn amharu ar fywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Galw am ymestyn yr ymchwiliad

Wrth ymateb i gyhoeddiad Ysgrifennydd yr Economi, mae Plaid Cymru wedi galw am ymestyn yr ymchwiliad ‘lleol’ i gynnwys ardaloedd ehangach.

Dywedodd Dai Lloyd, llefarydd Plaid Cymru ar isadeiledd, ei fod am weld yr ymchwiliad yn “ystyried y darlun ehangach, nid y llwybrau eraill yn unig. Dylai gymryd i ystyriaeth yr effaith ar y metro, trydaneiddio’r rheilffyrdd a phrosiectau isadeiledd eraill.”

Ychwanegodd fod angen ystyried datrysiadau cynaliadwy a fydd “o fudd i’r genedl gyfan,” a’u bod fel plaid am weld opsiwn “rhatach, cyflymach a gwell na’r Llwybr Du sydd wedi’i ffafrio gan y llywodraeth flaenorol.”

‘Integreiddio’ â thrafnidiaeth eraill

Mae llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Russell George AC, wedi croesawu’r cyhoeddiad am yr ymchwiliad cyhoeddus a’i “ysbryd o dryloywder.”

Er hyn, dywedodd ei bod yn “hollbwysig fod y ffordd liniaru yn ffurfio rhan o gynllun isadeiledd cenedlaethol a’i fod yn integreiddio’n esmwyth â chysylltiadau trafnidiaeth eraill.”

Dywedodd ei fod am weld yr holl opsiynau’n cael eu harchwilio’n drylwyr a chyn gynted â phosib “fel y gallwn gyrraedd datrysiad yn chwim i symud y prosiect yn ei flaen.”