Jo Cox AS (Llun o'i gwefan)
Mae Aelodau Cynulliad Cymru wedi bod yn talu teyrnged i’r Aelod Seneddol, Jo Cox, a gafodd ei llofruddio’r wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth arweinydd pob plaid yn y Cynulliad dalu teyrnged yn eu tro, gyda phob un yn gytûn bod “angen cael gwared â’r casineb” a oedd wedi arwain at ei llofruddiaeth.

Fe wnaeth gyfarfod llawn y Senedd ddechrau gyda munud o dawelwch i gofio am y fam i ddau o blant ifanc a gafodd ei lladd wrth iddi gynnal cymhorthfa yn ei hetholaeth, Batley and Spen, yn Sir Efrog.

“Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Jo Cox, Aelod Seneddol a fu farw mewn modd mor greulon yr wythnos ddiwethaf,” meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

Ymosodiad ‘anfaddeuol’

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod Jo Cox yn rhywun oedd â “phenderfyniad ffyrnig” ac “awydd llwyr i gyflawni pethau.”

Fe soniodd Carwyn Jones hefyd am ei haraith gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, ar ôl cael ei hethol am y tro cyntaf y llynedd, gan ei dyfynnu: “Mae gennym lawer fwy sy’n gyffredin na’r hyn sy’n ein gwahanu.”

“Does ‘na ddim amheuaeth bod yr ymosodiad ar Jo Cox wedi bod yn un wleidyddol,” meddai.

“Roedd yr ymosodiad yn un creulon ac anfaddeuol, yn erbyn popeth roedd yn sefyll drosto.”

Teyrngedau eraill yn y Senedd

Wrth gyfeirio at araith gyntaf Jo Cox, fe bwysleisiodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, bod “mewnfudo wedi gwella ein cymunedau”.

“Mae bellach y tu hwnt i amheuaeth p’un ai y cafodd ei lladd am y credoau hyn,” meddai, gan alw am fyw drwy eiriau Jo Cox ac atal diwylliant o gasineb o fewn cymdeithas.

Ategodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, hyn, gan ychwanegu bod “ein cymdeithas yn llawer tlotach ar ôl colli Jo Cox.”

Fe ddywedodd arweinydd UKIP, Neil Hamilton, y dylai gwleidyddion ddilyn ei ffordd o ddelio â materion gyda “thosturi a pharch at ddynolryw.”

Mae Thomas Mair, 52, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox.