Mae amseroedd aros mewn adrannau brys ysbytai yng Nghymru wedi profi gwelliant yn ystod y mis diwethaf, er gwaethaf ‘cynnydd sylweddol’ yn nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio yno, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae ffigurau’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn amlygu fod mis Mai eleni wedi profi’r lefel uchaf o gleifion ers dwy flynedd – Bottom of Form

Ym y gyda bron 3,000 o gleifion y dydd yn cael eu cyfeirio at yr adrannau brys.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos fod 82.5% o gleifion wedi treulio pedair awr neu lai mewn gofal brys – ond nid yw hyn yn llwyddo i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 95%.

‘Calonogol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n galonogol fod staff y rheng flaen wedi llwyddo’n gyffredinol i ddelio â’r pwysau, gyda mwy nag wyth ymhob deg o bobol yn treulio pedair awr neu lai yn yr adran rhwng cyrraedd, cael eu trin a’u rhyddhau.

“Rydym yn gwybod fod angen gwneud mwy gan Fyrddau Iechyd Lleol, ac rydym yn disgwyl iddyn nhw weithio’n galed i wella profiad y cleifion a chael gwared ag achosion o arosiadau hir,” ychwanegodd y llefarydd.

“Gall pobol hefyd gynorthwyo’r GIG drwy ddewis yn ddoeth, sef dewis y gwasanaeth mwyaf addas i’w anghenion a defnyddio’r Adrannau Brys pan fo angen yn unig.”