Mae S4C wedi croesawu’r newyddion y bydd y sianel yn cael lle ar wefan BBC iPlayer am bum mlynedd arall.
Mae’n debyg bod y cyfnod peilot, a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2014, wedi bod yn llwyddiannus ac mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cymeradwyo ei lle ar y wefan gwylio ar alw tan o leiaf mis Mawrth 2022.
Fe fydd ffigurau gwylio swyddogol S4C ar iPlayer yn cael eu cyhoeddi yn ei hadroddiad blynyddol y mis nesaf, ond yn ôl y sianel genedlaethol, mae rhoi S4C ar y gwasanaeth iPlayer wedi bod gam poblogaidd ymysg gwylwyr.
“Rydym yn croesawu penderfyniad Ymddiriedolaeth y BBC i barhau â’r cynllun ac mae ei lwyddiant yn dangos sut mae partneriaeth S4C gyda’r BBC yn gallu bod o fudd i wylwyr ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Partneriaeth S4C a’r BBC
Cafodd y cydweithio rhwng S4C a’r BBC ei chydnabod gan Lywodraeth Prydain ym Mhapur Gwyn y Siarter, ac yn ôl yr Ymddiriedolwr dros Gymru i’r BBC, gall y bartneriaeth ddatblygu eto.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y bartneriaeth honno’n parhau i ddwyn ffrwyth yn ystod cam nesaf y Siarter,” meddai Elan Closs Stephens.