Mae rhai o drigolion Gwynedd wedi bod yn cwyno fod gwair uchel ar ochr rhai o ffyrdd y sir yn beryglus i fodurwyr.

Mae’r cyngor yn cydnabod fod y gwasanaeth torri gwair wedi’i gwtogi yn ddiweddar a’i fod yn ceisio taclo’r sefyllfa.

“Mae’r llywodraeth wedi penderfynu Ileihau’n sylweddol gyfanswm yr arian y mae’n ei ddyrannu i lywodraeth leol,” meddai llefarydd.

“Mae hyn yn golygu fod cyfanswm yr arian y mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn gan y llywodraeth tuag at gostau i gyllido gwasanaethau lleol yn wynebu toriadau o oddeutu £19 miliwn rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2018.”

Mae’r Cyngor yn dadlau fod angen ariannu a diogelu gwasanaethau allweddol, tra’n cwtogi ar wasanaethau eraill, “Ar yr un pryd, mae’r Cyngor angen dod o hyd i £29 miliwn ychwanegol er mwyn talu costau’r galw cynyddol sydd ar wasanaethau megis gofal a chefnogaeth i bobl hŷn a phobl fregus. Mae’r ffactorau hyn yn golygu nad oes gan Gyngor Gwynedd ddewis ond torri rhai gwasanaethau, gan gynnwys lleihau’r nifer o weithiau mae’r Cyngor yn torri gwair mewn rhai ardaloedd.”

Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod fod y gwair ar ochrau’r lonydd wedi tyfu’n sylweddol yn ddiweddar.

“Mewn ymateb i gyfnod o dyfiant diweddar, mae’r cyngor wedi cyflwyno amserlen ar gyfer torri ar gyfer lleoliadau ar draws y sir, ac mae’r gwaith yn digwydd mor fuan ag sydd yn bosib,” meddai llefarydd.

“Ond gan fod y Cyngor yn gyfrifol am 131o feysydd chwarae, 16 mynwent a thros 2,500 milltir o hyd ochr ffordd, nid ydi hi’n bosib ymdrin â phob lleoliad ar yr un pryd.”