Castell Caernarfon - un o'r cestyll yn y fideo (Herbert Ortner CCA3.0)
Ar drothwy’r gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fideo sy’n dangos rhai o henebion Cymru wedi’u goleuo’n goch, mewn neges o gefnogaeth i’r tîm
Mae tîm Chris Coleman yn wynebu tîm pêl droed Lloegr heddiw mewn gêm dyngedfennol yn Lens.
Os bydd y tîm yn ennill heddiw, bydd yn sicr ar ei ffordd i rowndiau 16 ola Ewro 2016, gan mai un fuddugoliaeth neu ddwy gêm gyfartal sydd eu hangen bellach.
Dangos Cestyll y Normaniaid
Mae’r fideo yn dangos cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon, Chaerffili, Castell Coch ac Abaty Tyndyrn, gyda fersiwn ar y delyn o’r gân ‘Zombie Nation’, un o ffefrynnau cefnogwyr Cymru.
“Lloegr yw ein cymydog daearyddol agosaf yn y Deyrnas Unedig, felly roedd yn anorfod y byddai tipyn o edrych ymlaen at y gêm rhwng Cymru a Lloegr,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi a Seilwaith.
“Mae gynnon ni dîm hynod dalentog ac yn sicr y nod yw ceisio ennill yn erbyn Lloegr heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at weld ein chwaraewyr yn rhedeg allan ar y cae yn Lens a chynrychioli Cymru unwaith eto ar lwyfan y byd.”
Addo mynediad am ddim i safleoedd Cadw
Os bydd Cymru yn llwyddo i gyrraedd rowndiau’r 16 ola, mae’r Llywodraeth wedi addo mynediad am ddim i safleoedd Cadw, ddydd Sul 26 Mehefin.
“Byddwn wrth fy modd pe bawn yn gallu cynnig mynediad am ddim am un diwrnod i gestyll hanesyddol a henebion Cymru pe bai tîm Cymru’n cyrraedd yr 16 olaf,” ychwanegodd Ken Skates.
Yn ogystal â goleuo Canolfan y Mileniwm, y Senedd a Pharc Cathays yng Nghaerdydd, mae’r Llywodraeth yn bwriadu goleuo safleoedd treftadaeth ledled Cymru i gyd-fynd â’r bencampwriaeth yn Ffrainc.
Mae’r rhain yn cynnwys,
- Castell Biwmares
- Castell Caernarfon
- Castell Caerffili
- Castell Coch
- Castell Cas-gwent
- Castell Conwy
- Castell Coety
- Castell Cricieth
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Cydweli
- Castell Llansteffan
- Abaty Tyndyrn