Llys y Goron Caerdydd
Mae mam bachgen 17 mis oed, yr honnir iddo gael ei lofruddio, wedi pledio’n euog i achosi creulondeb neu adael i eraill achosi creulondeb i’w mab.

Fe wnaeth Chloe Thomas, 25, o Rondda Cynon Taf newid ei phle yn Llys y Goron Caerdydd, ddydd Mercher, ar ôl gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn yn y gorffennol.

Fe fydd adroddiadau’n cael eu paratoi cyn i Chloe Thomas gael ei dedfrydu.

Bu farw Finley Thomas ym mis Medi 2014 o anafiadau difrifol i’w ben a’i asennau.

Cariad Chloe Thomas, Sean Buckley, 28, o Donypandy sydd wedi’i gyhuddo o’i lofruddio ond mae e’n gwadu’r cyhuddiad hwnnw ac yn gwadu achosi creulondeb i Finley.

Mae’r achos yn parhau.