Wrth i ddegau o filoedd o bobol fynd i angladd y bocsiwr o fri, Muhammad Ali, heddiw, mae un Cymro wedi bod yn cofio ei weld yn un o’i frwydrau cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Rhufain yn 1960.

A hwythau’n fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn yng Ngholeg Aberystwyth, fe fodiodd Gwilym Tudur a’i gyfaill John Rowland Jones yr holl ffordd i Rufain, gyda thocyn £12 yr un i weld yr athletau i gyd yn y stadiwm.

Roedd y ddau hefyd yn cael dewis dwy gamp arall i’w gweld, a nofio a bocsio oedd y rheini, er mai digon “diflas” oedd y gystadleuaeth nofio.

Creu argraff

Mae Gwilym Tudur, cyn-berchennog y siop Gymraeg gyntaf yng Nghymru, Siop y Pethe, Aberystwyth, yn cofio gweld Muhammad Ali, neu Cassius Clay fel oedd yn arfer cael ei alw, yn y ffeinal, gydag Ali yn cipio’r fedal aur.

“Wnaeth o argraff arna i yn y ffeinal,” cofia Gwilym Tudur.

“Roedd y dyn du, golygus yma o America, roedd o’n creu argraff arnat ti, ac roedd o’n edrych mwy fel athletwr na bocsiwr – yn fain ac yn dal, ond yn gryf.

“Roedd o’n bocsio’n dda, ac yn osgoi dyrnau’r boi arall [Zbigniew Pietrzykowski o Wlad Pŵyl], ac ar yr amser hynny, wnaeth o un peth od iawn, wnaeth o neidio fyny a gwibio’i draed heibio’i gilydd, ac wrth gwrs, daeth hynny’n enwog nes ymlaen fel yr ‘Ali Shuffle’.

“Am ei fod o wedi ymddwyn tipyn bach yn wahanol, ac wedi creu cymaint o argraff arna’ i, roeddwn i’n ei ddilyn wedyn  – roeddwn i’n ffan mawr ohono fo.

“Mae’n syndod gymaint o aberth wnaeth o wedyn, colli tair blynedd a hanner o uchafbwynt ei yrfa –  doedd o ddim yn cael bocsio, am ei fod o’n gwrthod mynd i [Ryfel] Fietnam.”